Eluned Morgan - 'y Mesur yn amddiffyniad rhag Brexit' (Llun Cynulliad CCA2.0)
Fe fydd y gwleidydd sydd wedi bod yn arwain ar ran y Blaid Lafur wrth drafod Mesur Cymru yn argymell y dylai ei phlaid ei dderbyn mewn pleidlais allweddol yr wythnos nesa’.

Er fod gwendidau mawr yn y Mesur o hyd, mae Eluned Morgan yn dweud bod Llywodraeth Prydain wedi symud digon iddi hi allu dadlau o’i blaid pan ddaw gerbron y Cynulliad – fe fyddai pleidlais yn erbyn yno yn rhwystro’r Mesur yn llwyr.

Heb y Mesur, meddai, mae mwy o debygrwydd y byddai’r llywodraeth yn Llundain yn ceisio cipio rhai o’r grymoedd a ddylai ddod i Gymru pan fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac, os na fydd y mesur yma’n cael ei dderbyn, meddai, mae peryg y bydd trafodaethau Brexit yn golygu nad fydd amser seneddol ar gael i gyflwyno mesur arall am gyfnod hir.

Fel yr Alban – ‘angenrheidiol’

Fe fydd Mesur Cymru yn newid natur datganoli trwy nodi’n glir pa rymoedd sy’n cael eu cadw yn Llundain, gyda phopeth arall wedi’i ddatganoli – trefn debyg i’r Alban.

O gofio Brexit, mae angen y math hwnnw o sicrwydd, yn ôl Eluned Morgan, sy’n cymharu’r broses i gau’r hatsys ar long pan fydd storm yn dod.

“Os na fydd gyda ni’r un math o gyfansoddiad ag sydd gan yr Alban, mae peryg y byddwn ni’n colli grym,” meddai’r cyn-AS Ewropeaidd sydd bellach yn Aelod Cynulliad rhanbarthol ac yn Farwnes yn Nhŷ’r Arglwyddi.

‘Llanast – ond gwell na dim’

Fe ddywedodd Eluned Morgan wrth Golwg360 fod y mesur yn parhau’n “llanast” ond ei fod yn well na dim mesur newydd a bod digon o welliannau wedi’u gwneud a digon o rymoedd ychwanegol ynddo i’w wneud yn werth chweil.

Yn ystod y trafodaethau yn Nhŷ’r Arglwyddi yr wythnos hon, mae’n dweud bod Llywodraeth Prydain wedi ildio ar nifer o faterion pwysig.

Roedden nhw wedi newid eu meddwl ynghylch ceisio tynnu rhai pwerau’n ôl i Lundain – mewn meysydd fel mabwysiadu, cynllunio rheilffyrdd, rhyddhad rhag treth cyngor a rheoliadau adeiladu.

Roedden nhw wedi cytuno hefyd i ryddhau grymoedd ychwanegol mewn rhai meysydd hefyd, gan gynnwys tâl athrawon.

“Mae nifer sylweddol o fannau ble mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyfaddawdu sy’n golygu, o bwyso a mesur, fod gyda ni fwy i’w ennill nag i’w golli o gefnogi’r Mesur yma,” meddai.

Roedd newidiadau yn y y drefn ariannol fydd yn cydredeg â’r Mesur, sy’n rhoi hawliau benthyca newydd i Lywodraeth Cymru, hefyd wedi’i pherswadio.