Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod wedi dod o hyd i gorff yn dilyn tân mewn eiddo yng Ngheredigion.

Cafodd y gwasanaethau tân eu galw tua 10.40 y bore yma yn dilyn tân mewn tŷ yn ardal Trawsgoed yng ngogledd Ceredigion heddiw, Ionawr 11.

Ychwanegodd llefarydd ar ran y llu: “Roedd y gwasanaeth tân ar y safle i ddelio â’r tân. Yn anffodus, cafodd corff ei ddarganfod y tu mewn i’r eiddo.”

Nid oes gwybodaeth bellach wedi’i ryddhau ar hyn o bryd.