Ysbyty Treforys
Mae’r gwasanaethau brys wedi cael eu galw i Lys Ynadon Hwlffordd heddiw yn dilyn adroddiadau bod diffynnydd wedi torri ei wddf ei hun yn y doc.

Cafodd Lukasz Robert Pawlowski, 33 oed, ei gludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Treforys. Roedd yn aros i gael ei ddedfrydu ar ôl pledio’n euog i ymosodiad rhyw.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi cael eu galw i’r llys tua 10.20 y bore.

“Aeth swyddogion i’r safle a dod o hyd i ddyn wedi’i anafu, a oedd yn derbyn triniaeth gan barafeddygon. Mae wedi cael e gludo i Ysbyty Treforys mewn ambiwlans awyr.

“Nid oes gwybodaeth am natur ei anafiadau ar hyn o bryd. Mae’r llys wedi cau er mwyn i ymchwiliad gael ei gynnal.”