Mae cerddwr wedi’i anafu’n ddifrifol ar ôl bod mewn gwrthdrawiad â fan Ford Transit ym Mrychdyn.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad ar yr A5104 nos Sadwrn.

Roedd y ffordd ynghau am bedair awr yn dilyn y digwyddiad am 9.40pm.

Mae’r cerddwr mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yng Nghaer.