Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi dynes ar amheuaeth o lofruddio dyn 35 oed yn Hen Golwyn.

Cafodd yr heddlu eu galw i leoliad yn y dre’ am tua 8.30yh nos Iau, a chafodd corff David James Kingsbury ei ddarganfod gerllaw.

Mae’r ddynes sy’n cael ei chadw yn y ddalfa hefyd o’r ardal ac yn cael ei holi gan yr heddlu.

Mae ganddyn nhw 36 awr ychwanegol i’w holi.

Yn dilyn archwiliad post-mortem, daeth yr heddlu i’r casgliad fod David Kingsbury wedi cael ei drywanu unwaith.

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth, gyda thîm ymchwilio wedi’i sefydlu, ac maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn siopa ar Ffordd Abergele rhwng 8.30 a 9 o’r gloch nos Iau.