Mae Heddlu’r Gogledd yn gofyn am help y cyhoedd heddiw wedi lladrad yng Nghaernarfon neithiwr.

Bu i ddau ddyn yn gwisgo balaclafas dorri mewn i eiddo a dwyn arian ym Mro Seiont neithiwr am tua 9.45 y nos.

Dywedodd y Ditectif Dafydd Curry o CID Caernarfon: “Fe gafodd perchnogion yr eiddo eu dychryn gan y lladron a’r digwyddiad, ond yn ffodus ni chafodd yr un ohonyn nhw eu hanafu. Roedd y ddau ddyn yn gwisgo balaclafas a dillad tywyll, tua phum troedfedd ac wyth modfedd o daldra ac yn fain.

“Fy ngobaith yw bod aelodau o’r cyhoedd wedi gweld y dynion yn ymddwyn yn amheus yn y cyffiniau ar y pryd, a hefyd efallai bod yna bobol sy’n gwybod am y digwyddiad.

“Os oes gan unrhyw un wybodaeth am unrhyw ymddygiad amheus ar y noson, plîs cysylltwch efo’r Heddlu.”

Gellir cysylltu â’r Heddlu a chael sgwrs ar y We – www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx <http://www.north-wales.police.uk/contact/chat-support.aspx>

Neu mi fedrwch chi ffonio’r Heddlu ar 101 neu yn ddienw drwy Taclo’r Taclau ar y rhif 0800 555 111 gan ddyfynnu RC1700 2314.