Mae Gwasanaeth Achub Llanberis wedi galw ar ymwelwyr â mynydd ucha’ Cymru i baratoi cyn cychwyn allan i gerdded – a hynny yn dilyn cyfres o ddamweiniau yn ddiweddar.

Nos Sul, Rhagfyr 1, fe fu’n rhaid achub grŵp o bedwar oedd wedi mynd ar goll yn y tywyllwch gydag ond golau ar ffôn symudol i oleuo’r ffordd o’u blaenau.

Bu ail ddigwyddiad brynhawn Llun pan wnaeth unigolyn syrthio oddi ar lwybr yn agos i gopa’r Wyddfa gan arwain at “anaf difrifol i’r fraich”. Wedi pedair awr llwyddodd achubwyr i ddod o hyd i’r unigolyn a’i gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.

Ond, yn ôl y gwasanaeth achub, fe ellid fod wedi osgoi’r ddamwain yn llwyr pe bai gan y cerddwr gramponau.

Parchu’r mynyddoedd

“Mae hi’n hanfodol eich bod chi’n defnyddio cramponau a phicas iâ er mwyn cerdded trwy amodau fel sydd ar lethrau’r Wyddfa, ac yn aml mae dyddiau byrion y gaea’ yn galw am ddefnydd o dortsh,” meddai George Jones, ysgrifennydd Gwasanaeth Achub Llanberis.

“Dw i’n annog ymwelwyr i fwynhau mynyddoedd gorfoleddus Eryri yn y gaea’, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn eu parchu trwy baratoi yn ofalus.”