Kingsway yn Abertawe
Mae cam ola’r gwaith o ddymchwel clwb nos Oceana i wneud lle i swyddfeydd Cyngor Dinas a Sir Abertawe yn dechrau heddiw.

Bwriad y cyngor yw creu parth busnes ar y Kingsway ar ôl iddyn nhw brynu’r adeilad y llynedd.

Cafodd yr adeilad ei godi yn 1967 fel sinema Rank ac ers hynny, fe fu’n gartref i nifer o glybiau nos a bariau dros y blynyddoedd, gan gynnwys Ritzy and Icon, a Time and Envy.

Cafodd clwb nos Oceana ei gau fis Mai’r llynedd yn dilyn trafferthion wrth geisio denu cwsmeriaid i ganol y ddinas i ffwrdd o Wind Street.

Roedd disgwyl i’r adeilad gael ei ddymchwel erbyn mis Hydref y llynedd, ond roedd peth oedi ar ôl darganfod asbestos.

Y clwb yn Abertawe oedd clwb mwya’r cwmni yng Nghymru ar ôl cael ei ail-agor yn 2008 yn dilyn gwaith i’w ymestyn.

Ond roedd nifer o flynyddoedd o ansefydlogrwydd o flaen cwmni Luminar oedd yn berchen ar y clwb.

Cafodd y clwb ei achub yn wreiddiol yn 2011 gan fuddsoddwyr pan aeth Luminar i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae disgwyl i’r adeilad fod wedi cael ei ddymchwel yn llwyr erbyn y gwanwyn.