Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn dwy ddamwain ddifrifol nos Fawrth.

Digwyddodd y naill, sy’n cael ei disgrifio fel “gwrthdrawiad difrifol” ar Ffordd y Barri yn Y Barri am 10.30yh, a’r llall ar Ffordd Penarth, Caerdydd am 5.15yp.

Yn Y Barri, roedd tacsi Skoda Octavia mewn gwrthdrawiad â cherddwr 16 oed, a gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae ei fywyd mewn perygl.

Hoffai’r heddlu siarad ag unrhyw un a welodd y bachgen yn cerdded cyn y gwrthdrawiad, gan gynnwys criw o ddynion oedd yn yr ardal ar y pryd.

Digwyddodd yr ail wrthdrawiad ar Ffordd Penarth y brifddinas, pan darodd Mercedes A150 gerddwr ger y gyffordd â Ffordd Sloper.

Cafodd y cerddwr ei gludo i’r ysbyty am driniaeth.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth gan dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y naill ddigwyddiad neu’r llall gysylltu â’r heddlu ar 101, neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.