Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dal i ymchwilio, wedi i ddynes ddiodde’ ymosodiad tra’r oedd hi’n cerdded adre’ yn ystod oriau mân Ionawr 1.

Roedd y ddynes 24 oed yn cerdded ar hyd Ffordd Caernarfon yn  ninas Bangor rhwng 1.30yb a 2.15yb pan ymosododd dyn arni ger y fynedfa i Fynwent Glanadda.

Er iddi lwyddo i ymladd y dyn, fe gafodd fân anafiadau, ac roedd hi wedi dychryn yn arw. Y gred ydi mai bwriad rhywiol oedd i’r ymosodiad.

Mae’r dyn y mae’r heddlu’n chwilio amdano wedi’i ddisgrifio fel dyn gwyn, 30-40 oed, o gwmpas 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, ac o ffrâm canolig.