Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi cadarnhau y bydd yn teithio i Norwy yr wythnos hon, er mwyn gweld sut mae’r wlad honno’n cynnal perthynas â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae gan Norwy aelodaeth ag Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) sy’n rhoi mynediad iddyn nhw i farchnad fewnol yr Undeb Ewropeaidd.

Fe fydd Carwyn Jones yn hedfan yfory gan gynnal trafodaethau â gwleidyddion ar arweinwyr busnes y wlad cyn dychwelyd ddydd Gwener, yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae yna fwriad hefyd y gallai gynnal trafodaethau tebyg gyda Gwlad yr Iâ.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May, wedi cyhoeddi ei bod am ddechrau’r broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd erbyn ddiwedd mis Mawrth.