Marw’n naturiol a wnaeth dyn 70 oed o Lanberis fore dydd Calan, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Maen nhw wedi cadarnhau bod eu hymchwiliad bellach ar ben i farwolaeth Dafydd Hughes o Faes Padarn.

Mae dyn lleol 20 oed a oedd yn cael ei holi am y digwyddiad bellach wedi ei ryddhau yn ddiamod ac, yn ôl yr heddlu, roedd wedi cydweithredu’n llawn gyda nhw.

Roedd archwiliad post mortem wedi ei gynnal ar gorff y pensiynwr ddoe ac roedd hwnnw wedi cadarnhau mai marwolaeth o achosion naturiol oedd hi.

Roedd Dafydd Hughes wedi cwympo y tu allan i’w gartref yn oriau mân Dydd Calan.