Mae nifer o deithiau awyr i mewn ac allan o Faes Awyr Caerdydd wedi cael eu gohirio neu eu dargyfeirio oherwydd y niwl.

Mae rhai teithiau bellach yn mynd i Fryste yn lle Caerdydd, ac mae oedi o hyd at 90 munud ar gyfer teithiau eraill.

Mae disgwyl oedi drwy gydol y dydd wrth i’r niwl barhau i symud o dde-ddwyrain Lloegr, lle cafodd gêm bêl-droed Caerdydd yn erbyn Brighton & Hove Albion ei chanslo neithiwr.