Angela Burns (o wefan y Cynuliad)
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gadw at ei haddewid i wella integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywed eu llefarydd ar Iechyd, Angela Burns, fod hyn yn hanfodol er mwyn mynd i’r afael â’r hyn sy’n cael ei gydnabod fel “lladdwr cudd” – sef unigrwydd ymysg pobl hŷn.

Mae hi’n galw am drafodaeth genedlaethol am y ffordd y mae cymdeithas yn trin pobl hŷn, ac am fwy o gydnabyddiaeth o’r gwerth y gall pobl hŷn ei gyfrannu.

“Mae’n bwysig mynd i’r afael ag unigrwydd oherwydd mae’n berygl gwirioneddol i iechyd cyhoeddus,” meddai Angela Burns, AC De Penfro a Gorllewin Caerfyrddin.

“Dementia yw prif achosion marwolaethau ym Mhrydain bellach, ac mae angen inni gymryd camau i wella ansawdd bywyd pobl hŷn mewn cymdeithas, gyda llawer ohonyn nhw’n byw ar eu pen eu hunain.”

Mae hi’n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i chwilio am atebion arloesol i wella ansawdd bywyd pobl hŷn.

“Ychydig iawn o gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i wella integreiddio rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol,” meddai.

“Dyma’r hyn sy’n ei gwneud hi’n anodd i gleifion hŷn ddychwelyd i’w cartrefi ar ôl bod yn yr ysbyty.

“Mae’n hen bryd inni gywiro hyn. Nid ar yr unigolion y mae’r bai am gymryd gwelyau ysbytai, ond ar y gyfundrefn y dylai fod yn eu cefnogi.”