Suzy Davies (Llun Golwg360)
Mae dau o lefarwyr y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi galw ar bobol sy’n diodde’ trais yn y cartref tros dymor y gwyliau i roi gwybod i’r awdurdodau.

Ddylai neb ddioddef yn dawel, meddai’r ACau Suzy Davies a Mark Isherwood, sy’n dweud hefyd na ddylai cymdogion, perthnasau na ffrindiau gadw’n dawel os ydyn nhw’n amau bod rhywbeth o’i le.

Mae’r ddau wedi cyhoeddi eu hapêl adeg y Nadolig, medden nhw, oherwydd ffigurau newydd swyddogol sy’n dangos bod un o bob deg trosedd yng Nghymru yn ymwneud â cham-drin domestig.

Roedd yr ystadegau’n gosod Cymru ymhlith y rhanbarthau poblogaeth gwaetha’ yng ngwledydd Prydain.

‘Mwy peryglus’

Mae Suzy Davies a Mark Isherwood yn dweud hefyd bod tymor y gwyliau’n adeg fwy peryglus wrth i bobol yfed mwy o alcohol a cholli rheolaeth.

“I lawer gormod o bobol, mae’r Nadolig yn parhau’n adeg o ofn, bygwth neu drais ac rydyn ni’n manteisio ar y cyfle yma i apelio ar i ddioddefwyr cam-drin beidio â dioddef yn dawel,” meddai Suzy Davies, sy’n llefarydd y Ceidwadwyr ar Wasanaethau Cymdeithasol.

“Does dim esgus am gam-drin corfforol neu ar lafar ac fe ddylai dioddefwyr wybod bod cymorth ar gael iddyn nhw.”