Mae heddlu’n parhau i holi dau ddyn ar ôl ymosodiad mewn pentre’ yn Sir Caerffili.

Mae dyn arall wedi ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau drwg ac, yn ôl Heddlu Gwent, mae mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y dynion, 35 a 32 oed, eu harestio ac maen nhw’n cael eu cad wyn y ddalfa ar hyn o bryd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ym mhentre Hafodyrynys, rhwng Pontypŵl a’r Crymlyn ychydig wedi tri y bore yma.

Mae’r heddlu’n dal i ymchwilio i’r digwyddiad ac yn gofyn am wybodaeth trwy’r rhif 101.