Bob Bradley mewn cynhadledd i'r wasg (Llun Golwg360)
Mae clwb pêl-droed Abertawe mewn peryg o wrthryfel wrth i gefnogwyr alw am gael gwared ar y rheolwr Americanaidd Bob Bradley.
Ond maen nhw hefyd yn cwyno am y perchnogion Americanaidd newydd ac wedi troi ar y Cadeirydd, Huw Jenkins ac mae dau o gyn-arwyr y clwb hefyd wedi beirniadu’n gyhoeddus.
Hyn yn sgil cyfres o berfformiadau ofnadwy, gan gynnwys colli o 4-1 yn erbyn West Ham ddoe, sy’n golygu bod yr Elyrch yn ola’ ond un yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae nifer o gefnogwyr bellach wedi troi at wefannau cymdeithasol i alw am sacio Bob Bradley ac mae rhai’n ceisio dechrau ymgyrch i sicrhau hynny.
Hartson yn beirniadu
Ond fe gafodd Huw Jenkins ei fwian yn y gêm ddoe ac mae’r cyn-chwaraewr John Hartson wedi rhoi’r bai yn blwmp ac yn blaen ar ysgwyddau’r perchnogion Americanaidd.
Onibai amdanyn nhw, fyddai Bob Bradley ddim wedi cael dod yn agos at y clwb, meddai’r cyn flaenwr rhyngwladol o’r ddinas.
Ac mae cyn-chwaraewr arall, Ian Walsh, wedi dweud mai’r unig obaith i Abertawe osgoi cwympo o Uwch Gynghrair Lloegr yw rhoi’r sac i Bob Bradley a phenodi rheolwr newydd cyn y ffenest drosglwyddo ym mis Ionawr.
Bradley’n parhau’n ‘benderfynol’
Neithiwr, fe ddywedodd Bob Bradley ei fod yn parhau’n benderfynol o weithio’n galed a wynebu’r amseroedd caled ac mae Huw Jenkins wedi ateb y beirniaid trwy ddweud bod gwerthu’r rhan fwya’ o’r rhanddaliadau i’r Americanwyr yn gam angenrheidiol.
Roedd Huw Jenkins wedi cael y clod am achub y clwb rhag difancoll ychydig tros 10 mlynedd yn ôl ac fe gafodd ei ganmol am flynyddoedd am ei ddull o arwain Abertawe ar y cyd â’r cefnogwyr.
Ond, ar ôl cyfres o fethiannau yn swydd y rheolwr ac ar ôl gwerthu ei gyfran o’r clwb i’r Americanwyr, Stephen Kaplan a Jason Levien.