Does yna’r un o wasanaethau trên Cymru yn rhedeg heddiw, ac mae’r sefyllfa wedi esgor ar ddadlau rhwng y Torïaid a Llafur tros pwy sydd ar fai.

Mae Llafur yn ymosod ar “ddiffyg gweithredu” gan lywodraeth San Steffan, tra bod y Ceidwadwyr yn dweud i’r wrthblaid gael digon o gyfle i wella’r sefyllfa tra’r oedden nhw mewn grym.

Y ddadl ydi fod diffyg trenau yn ei gwneud hi’n anodd iawn i rai teuluoedd gyfarfod a threulio’r Nadolig gyda’i gilydd.

Y cwmnïau sydd ddim yn rhedeg heddiw ydi Virgin, Trenau Arriva Cymru, Great Western, c2C, CrossCountry, East Midlands, Grand Central, Great Northern, London Midland, Northern Rail, South West, Thameslink a’r TransPennine Express.

“Mae penderfynu faint o drenau sydd eu hangen ar ddyddiau gwyliau penodol yn fater i’r cwmniau eu hunain,” meddai datganiad gan yr Adran Drafnidiaeth.

“Rydyn ni’n gwybod fod rhai pobol eisiau teithio ar Wyl San Steffan, a dyna pam ydan ni wedi gweithio’n galed gyda’r diwydiant trenau er mwyn gwneud yn siwr fod yna rai trenau’n rhedeg.”