Shirley Bassey
Mae’r Fonesig Shirley Bassey wedi datgelu bod marwolaeth ei merch 30 blynedd yn ôl wedi ei hatal rhag medru canu am chwe mis.

Ar raglen BBC sydd yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 ac sy’n cael ei darlledu nos yfory, mae’r gantores Gymreig wedi datgelu effaith marwolaeth ei merch.

Bu farw Samantha Novak yn 21 oed yn 1985, ond mae amgylchiadau ei marwolaeth yn ddirgel. Mae Shirley Bassey yn haeru nad damwain nac hunanladdiad oedd ei marwolaeth.

Cymaint oedd effaith hyn ar y gantores ar y pryd, ei bod hi methu â chanu, a sonnir yn y rhaglen ynglŷn â’i phrofiad o gamu ar lwyfan i berfformio ond bod “dim yn dod allan”.

Mae hi’n sôn ar y rhaglen am ei phenderfyniad i ddychwelyd i’r llwyfan yn fuan wedi’r farwolaeth ac mae hi’n cyfleu edifeirwch am y penderfyniad.

Bydd David Walliams Celebrates Dame Shirley Bassey yn cael ei darlledu ar BBC One nos yfory am naw.