Llun o'r hyn fydd Galeri 2
Mae cwmni Galeri Caernarfon Cyf wedi denu tua £3 miliwn o arian cyhoeddus i ehangu’r ganolfan bresennol yn Noc Fictoria, er mwyn cartrefu sinema dwy sgrin newydd.

Daw  £1.5m o’r arian i godi’r estyniad gan Gyngor Celfyddydau Cymru, £1 miliwn arall o un o gronfeydd yr Undeb Ewropeaidd, a’r gweddill gan Lywodraeth Cymru.

Y gobaith yw cychwyn ar y gwaith adeiladu ym mis Chwefror, ac anelu at agor y sinema yn 2018.

‘Unig sinema aml-sgrîn Gwynedd a Môn’

Yn ôl llefarydd Galeri: “Mi fydd agor y sinema pwrpasol newydd ar safle Galeri yn golygu mai Caernarfon fydd yr unig sinema aml-sgrîn yn siroedd Gwynedd a Môn. Mae’r datblygiad hefyd yn galluogi rhyddhau theatr 394 sedd y ganolfan ar gyfer datblygu’r rhaglen artistig a defnydd masnachol megis cynadleddau a phriodasau.”

Mae addewid y bydd y sinema newydd yn dangos y ffilmiau diweddaraf.