Mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad rhwng tri cherbyd ar un o brif ffyrdd Caerdydd.

Mae un gyrrwr yn ymladd am ei fywyd yn dilyn y digwyddiad ger tafarn y Claude ar Ffordd Albany yn y brifddinas brynhawn ddoe.

Fe fu car Ford Focus glas mewn gwrthdrawiad â Citroen du a Ford KA.

Mae gyrrwr y Ford Focus – dyn lleol, 57 oed – yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac mae meddygon yn dweud fod ei fywyd mewn peryg.