Caerdydd
Mi fydd y Penwythnos Mawr yn dychwelyd i Gaerdydd y flwyddyn nesaf gyda’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Pride Cymru.

Dyma’r tro cyntaf i Pride Cymru fod yn gyfrifol am yr ŵyl a oedd wedi cael ei threfnu gan Gyngor Caerdydd bob blwyddyn hyd at 2011.

Mae disgwyl i’r digwyddiad fydd yn dathlu cymuned LGBT (lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol) y ddinas, ddenu tua 200,000 o bobol, gyda digwyddiad Pride ar y dydd Sadwrn a ffocws teuluol i’r dydd Gwener a Sul.

Nid yw’r digwyddiad wedi cael ei gynnal ers 2011 ac roedd pryder na fyddai wedi bod yn bosib cynnal y digwyddiad gan nad oedd y safle lle arferai gael ei chynnal ar gael.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar lawnt neuadd y ddinas yn y Ganolfan Ddinesig.

Mewn datganiad dywedodd y Cyngor Sir: “pan ddechreuodd Cyngor y Ddinas siarad â Pride am symud yr ŵyl o Gaeau Coopers, daeth hi’n amlwg mai Lawnt Neuadd y Ddinas a’r Ganolfan Ddinesig fyddai’r lleoliadau perffaith.

“Dyma un o ganolfannau dinesig gorau’r byd. Mae’n rhoi llwyfan i Pride yng nghanol y ddinas, a bydd ailgyflwyno’r Penwythnos Mawr fel rhan o’r ŵyl yn cynnig dimensiwn arall i un o ddigwyddiadau gorau Cymru.”