Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i gerddwr gael ei anafu yn dilyn gwrthdrawiad bore dydd Sul, 18 Rhagfyr.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng cerddwr a char Vauxhall Astra ar yr A541 yn yr Wyddgrug ger Caergwrle tua 7:30yb bore dydd Sul.
Cafodd y cerddwr, dyn lleol 40 oed, ei gludo mewn ambiwlans i Ysbyty Maelor Wrecsam.
Meddai’r Rhingyll Emlyn Hughes o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Diolch byth, nid yw’r anafiadau mor ddifrifol ac a gredwyd i ddechrau ac mae’r dyn yn gwella yn yr ysbyty.
“Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd y dyn yn cerdded ar ochr y ffordd cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â ni.
“Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth fyddai’n ein helpu ni gyda’r ymchwiliad ein ffonio ni ar 101 neu ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio’n fyw ar-lein a dyfynnu’r cyfeirnod U189454.”