Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol ar ffordd ddeuol yr A472 ger Trecelyn y bore yma.

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 10 o’r gloch y bore.

Cafodd gyrrwr beic modur i gludo i’r ysbyty ag anafiadau difrifol i’w ben.

Mae’r ffordd ynghau rhwng cylchfan yr A457 (ger tafarn yr Otter) a chyffordd yr A4048 (Sainsbury’s) wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.