Simon Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru
Mae cryn ganmoliaeth wedi bod i wylnos yn Aberystwyth i gefnogi trigolion Aleppo yn Syria nos Iau ddiwethaf.

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn y Canolbarth a’r Gorllewin, Simon Thomas ei fod yn falch ac yn llawn edmygedd o drigolion y dref yn dilyn rhyfel hir rhwng lluoedd Syria a gwrthryfelwyr.

Cafodd canhwyllau eu gosod allan i sillafu ‘Aleppo’, ac roedd rhai o ffoaduriaid Syria ymhlith y siaradwyr yn y digwyddiad.

Dywedodd Simon Thomas, sy’n byw yn Aberystwyth fod trigolion y dref wedi “profi bod rhai o bobloedd mwyaf gofalgar, tosturiol ac anhunanol y Deyrnas Unedig yn byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru”.

“Yn ogystal â bod y sir gyntaf yng Nghymru i groesawi ffoaduriaid o Syria gyda breichiau agored, mae pobl Ceredigion wedi darparu cefnogaeth i bobl sy’n dioddef ar draws y byd yn gyson.

“Mae ymgais Llywodraeth Syria i adennill Aleppo wedi arwain at erchyllterau annisgrifiadwy ar ddynion, menywod a phlant diniwed o Syria.

“O ddienyddiadau a diflaniadau gorfodol i artaith a thrais rhywiol, rydym yn llygad-dystion i Fosnia a Rwanda’r presennol, a beth rydym yn gwneud?”

Fe gyhuddodd Lywodraeth Prydain o “anwybyddu” erchyllterau ac o fod yn “segur” wrth i filoedd o bobol yn Syria farw.

“Hoffwn ddiolch i bobl Aberystwyth am ddangos undod gyda phobl Aleppo, ac unwaith eto, erfyn ar Lywodraeth San Steffan i weithredu.”