Mae adroddiad newydd yn dangos mai Cymru yw’r wlad leiaf cynhyrchiol yn y Deyrnas Unedig o ran gwerth ychwanegol gros [GVA].

Yr ardaloedd lle’r roedd GVA ar ei isaf fesul pen oedd Ynys Môn a’r Cymoedd yn ôl arolwg y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), oedd yn ystyried pob ardal yn y Deyrnas Unedig.

Mae’r gwrthbleidiau wedi ymateb i’r ffigurau, gyda Phlaid Cymru’n galw am gynhadledd frys i fynd i’r afael â’r “argyfwng” a’r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod Llafur Cymru “ddim yn gweithio.”

Mae GVA yn golygu gwerth nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu cynhyrchu mewn ardal neu sector o’r economi.

GVA Ynys Môn oedd £13,411 a’r Cymoedd oedd £13,681, o gymharu â Llundain, sydd â GVA o £43,629.

Roedd gan Gymru gyfan GVA o £18,002 – y lleia’ o holl wledydd y Deyrnas Unedig.

Y tair ardal fwya’ gynhyrchiol yn Llundain oedd Camden a Dinas Llundain, oedd â GVA o £292,855, Westminster oedd â £221,103 a Tower Hamlets, £98,134.

“Argyfwng” yr economi Gymreig

“Mae’r ffigurau heddiw yn dangos bod yna argyfwng strwythurol mawr wrth wraidd yr economi Gymreig,” meddai Adam Price, Aelod Cynulliad Plaid Cymru.

“Mae’r rhain ymhlith y ffigurau gwaetha’ i Gymru, sy’n gymharol i gyfartaledd y Deyrnas Unedig pan ddechreuodd gofnodion nôl yn 1954.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru gynnal uwch-gynhadledd frys i Gymru gyfan i fynd i’r afael â’r sefyllfa argyfyngus hon.

“Mae hyn yn dechrau mynd yn broblem i Gymru gyfan sydd angen atebion dros Gymru gyfan.”

Andrew RT – ‘dyw Llafur ddim yn gweithio’

Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, mae mwy gall Lywodraeth Cymru ei wneud i adfywio’r economi.

“Mae’r ffaith fod Cymru unwaith eto ar waelod tabl arall yn y Deyrnas Unedig, wythnos yn unig ers cyhoeddi canlyniadau gwarthus PISA, yn dangos dydy Llafur Cymru ddim yn gweithio pan mae’n dod i’r economi,” meddai.

“Mae cymaint mwy gall Lywodraeth Lafur Cymru ei wneud i adfywio’r economi, o wella mynediad at gyllid i fusnesau bach i roi mwy o gymorth ar ardrethi busnes.”

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:

“Mae’r ffigurau diweddaraf o ran Gwerth Ychwanegol Gros yn rhoi darlun gwell o Gymru. Cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros Cymru yn 2015 oedd £55.8 biliwn, cynnydd o 3 y cant ar y flwyddyn flaenorol ac mae’n codi’n gynt na chyfartaledd y DU.

“Mae’r ffigurau hefyd yn dangos bod y Gwerth Ychwanegol Gros y pen wedi cynyddu 2.8 y cant o gymharu â ffigurau 2014 yng Nghymru, o gymharu â chynnydd o 2.1 y cant ar gyfer y DU, a’r flwyddyn ddiwethaf roedd yn £18,002.

“Mae ffigurau heddiw yn golygu mai cynnydd Cymru o ran Gwerth Ychwanegol Gros y pen oedd y ffigurau uchaf ond dwy o wledydd a rhanbarthau’r DU.

“Rydym yn cydnabod bod yna fwy i’w wneud a byddwn yn parhau i weithio’n galed i ddatblygu economi Cymru. Bydd datblygiadau fel Tasglu’r Cymoedd, Wylfa Newydd a’n cynlluniau ar gyfer Trydedd Bont dros y Fenai i gyd yn helpu i godi lefel Gwerth Ychwanegol Gros rhai o gymunedau llai llewyrchus Cymru.

“Does dim lle o gwbl i laesu dwylo, ond mae’r ffigurau hyn yn dangos bod ein ffocws ar fusnes yn hybu twf ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl gyffredin ledled Cymru.”