Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod methu a gwireddu eu huchelgais o waredi dlodi plant erbyn 2020.

Mae safiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddiwygio lles a newidiadau yn y farchnad lafur wedi eu rhestri fel ffactorau sy’n cyfrannu at gynnydd y rhagwelir yn tlodi yng Nghymru.

Yn 2015, roedd dal i fod 72,000 o blant yn byw mewn cartrefi lle nid oes aelod o’r teulu yn gweithio, ac mae tlodi ymysg pobol sy’n gweithio yn broblem sy’n tyfu.

“Nid oes gan Lywodraeth Cymru’r pwerau ariannol a pholisi sylfaenol, yn arbennig o ran y system les, sydd eu hangen i’n galluogi ni i wneud y newidiadau sylweddol angenrheidiol,” meddai Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant.

“Ni allwn drechu tlodi ar ein pennau ein hunain. Dim ond drwy gydweithio y gallwn obeithio cyrraedd y lefel o newid ar y cyflymder angenrheidiol er mwyn lleihau tlodi plant yng Nghymru.

“Fel rhan o hyn, rydw i wedi gwahodd sefydliadau i ymuno â ni i ddatblygu Parthau Plant i helpu i wella cyfleoedd i blant a phobol ifanc sy’n byw yng Nghymru.”