Mae apêl wedi’i lansio heddiw i helpu’r tua saith miliwn o bobol sy’n wynebu newyn yn Yemen yn y dwyrain canol.

Mae’r apêl wedi’i lansio gan Bwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) sy’n cydweithio ag 13 o brif elusennau’r Deyrnas Unedig gan gynnwys y Groes Goch, Oxfam ac Achub y Plant.

Yn ôl y pwyllgor, mae pobol Yemen gyda’r tlotaf yn y byd ac yn dioddef o newyn gyda phlant yn marw o ddiffyg maeth yn dilyn ugain mis o ryfel.

Gobaith y DEC ydy darparu mwy o gymorth, bwyd a thriniaethau i bobol Yemen.

‘Cymorth brys’

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi datgan ei gefnogaeth i’r apêl: “heddiw yn Yemen, mae pobol angen cymorth brys. Mae plant yn marw o ddiffyg maeth ac mae miliynau o bobol sydd ddim yn gwybod o ble bydd eu pryd nesaf yn dod,” meddai.

“Er gwaetha’r gwrthdaro, mae cymorth dyngarol sydd yn achub bywydau megis bwyd, dŵr a chyflenwadau meddygol yn dal i gael ei ddarparu. Ond mae angen mwy o gyfraniadau nawr er mwyn atal miloedd yn fwy o farwolaethau,” meddai wedyn.

Cyfrannu

Mae disgwyl i’r apêl gael sylw ar S4C, y BBC, ITV, Sianel 4, Sianel 5 a Sky.

Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ymateb trwy roi punt-am-bunt i gcyfraniadau hyd at £5 gan y cyhoedd.