Y digwyddiad a George North yn gorwedd yn llonydd (Llun: Rhaglen deledu BT Sport)
Fe fydd penaethiaid Uwch Gynghrair Rygbi Lloegr yn dyfarnu heddiw yn achos yr anaf diweddara’ i asgellwr Cymru, George North.

Ac mae prif sgrifennwr chwaraeon un o bapurau Lloegr wedi galw ar i’r chwaraewr roi’r gorau i chwarae rhag diodde’ niwed difrifol a pharhaol.

Mae George North yn gorffwys ar hyn o bryd ar ôl cael edrych fel petai wedi cael ei daro’n anymwybodol mewn gêm i’w glwb Northampton yn erbyn Leicester yr wythnos ddiwetha’.

Fe gyhoeddodd yr Uwch Gynghrair y bydden nhw’n cynnal ymchwiliad ar ôl i feddygon Northampton ganiatáu i’r asgellwr fynd yn ôl i chwarae ar ôl yr anaf.

Fe allai’r clwb gael eu cosbi am dorri’r rheolau sy’n dweud na ddylai chwaraewr fynd yn ôl i’r ca ear ôl bod yn anymwybodol.

Pryder arbennig

Mae pryder arbennig am George North ac yntau wedi gorfod gorffwys am rai misoedd yn y gorffennol ar ôl cael cyfres o ergydion i’w ben.

Yn union wedi’r gêm dros y Sul, fe ddyweodd mewn neges trydar mai wedi brifo ei wddw yr oedd, nid ei ben, a’i fod wedi aros ar y ddaear rhag ofn.

Mae Northampton hefyd yn dweud na fyddai eu meddygon wedi gadael iddo fynd yn ôl i’r cae pe baen nhw’n meddwl ei fod wedi ei daro’n anymwybodol.

Yn y cyfamser, mae prif ohebydd nodwedd chwaraeon y Daily Telegraph wedi dweud y dylai George North roi’r gorau i chwarae – fel arall, meddai Oliver Brown, fe allai ddiodde’ niwed difrifol i’w ymennydd.

Fe ddaw hynny ddiwrnod ar ôl i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, ddweud wrth y chwaraewr bod ei iechyd yn bwysicach na’r gêm.