Y Goruchaf Lys
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno tystiolaeth yn y Goruchaf Lys heddiw, a fydd dadlau bod angen sêl bendith y Cynulliad Cenedlaethol cyn gweithredu erthygl 50 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Prydain yn apelio yn erbyn dyfarniad yr Uchel Lys y dylai Senedd Prydain bleidleisio dros ddechrau proses Erthygl 50 er mwyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r achos hwn yn rhan o her gyfreithiol Gina Miller yn erbyn Llywodraeth Prydain i fynnu fod Senedd Prydain yn cael pleidlais ar Brexit.

Fe fydd Llywodraeth Cymru yn dadlau ei hachos heddiw ar ôl Lywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon i gyflwyno achos ddoe.

Dadlau o safbwynt Cymru

Mae Prif Gwnsler Llywodraeth Cymru, Mick Antoniw yn dadlau y byddai parhau i weithredu Erthygl 50 heb ymgynghoriad gyda’r sefydliadau sydd wedi’u datganoli yn diystyrru’r amrywiaeth oddi mewn i wledydd Prydain.

Ychwanegodd fod gadael yr Undeb Ewropeaidd am newid y setliad datganoli.

“Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at newid sylweddol yn setliad datganoli Cymru,” meddai. “Dim ond Senedd y Deyrnas Unedig gaiff wneud y newidiadau hynny, a dylai hynny ddigwydd gyda chydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y pŵer i hepgor y dull pwysig hwn o gynnal trafodaeth rhwng y Cynulliad Cenedlaethol.”

Bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli yn y Goruchaf Lys gan Richard Gordon QC, arbenigwr ar gyfraith gyfansoddiadol a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae disgwyl i Richard Gordon godi i siarad am 10.45yb fore Iau.