Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod wedi gwneud cais am £6.8 miliwn i Lywodraeth Prydain am orsaf drên newydd i un o bentrefi cyfagos Aberystwyth sydd â llinell rheilffordd yn mynd heibio iddi.

Mae datblygu gorsaf drên a chyfnewidfa newydd yn Bow Street, ynghyd â maes parcio a safleoedd bysiau, yn dibynnu’n awr a fydd Llywodraeth Cymru’n llwyddiannus gyda’u cais ai peidio.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd modd dechrau ar y gwaith o ddatblygu’r orsaf yn 2018, a’i agor erbyn 2019.

Bow Street – ‘achos cryf’

“Mae gan Bow Street achos economaidd cryf, bydd yn cyfrannu at dwf a chyflogaeth yng nghanolbarth Cymru a bydd yn gwella mynediad at gyfleusterau megis Prifysgol Aberystwyth, Ysbyty Bronglais a Llyfrgell Genedlaethol Cymru,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi.

“Bydd y prosiect arfaethedig hefyd yn ategu datblygiad campws newydd Prifysgol Aberystwyth gerllaw.”

Manylion y cais

 

Esboniodd Ken Skates eu bod wedi “cyflwyno cais cryf am 75% o gost y prosiect arfaethedig, y mwyafswm a ddarperir o gyllid Llywodraeth y DU…

“…rydym wedi’i gwneud yn glir y byddwn yn darparu’r gweddill er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau – £1.7 miliwn, gan gynnwys gwariant hyd yma.”