Mae’r canwr a’r bardd, Twm Morys, yn amddiffyn y bachgen o Lanystumdwy a ddaeth yn Brif Weinidog gwledydd Prydain union ganrif yn ôl, gan ddweud i Lloyd George “wneud ei orau” mewn swydd anodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe wnaeth ei orau dros Gymru hefyd, meddai, a hynny mewn cyfnod pan nad oedd hi’n ffasiynol mynegi teimladau cenedlaetholgar Gymreig.

“Mae’n wir y gallai o fod wedi gwneud mwy, pan oedd ganddo fo’r grym… ond dw i wedi dod i’r casgliad iddo fo wneud ei orau,” meddai Twm Morys wrth golwg360.

Mae’n cyfadde’ mai ychydig iawn o’i ffrindiau o bentre’ Llanystumdwy sydd, fel fo, wedi’u “cyfareddu” gan y Dewin – a bod canmlwyddiant y Rhyfel Mawr yn rhan o hynny.

“Mi oedd o’n ddyn difyr, doedd?” meddai Twm Morys. “Ac os ydach chi’n ei gymharu o efo gwleidyddion heddiw, sy’n ddiflas iawn ac yn llwydaidd ac yn methu siarad yn dda iawn… ac os ydach chi’n eu cymharu nhw efo Lloyd George, oedd yn siaradwr tan gamp ac yn ddyn diddorol ac yn dipyn o ddihiryn… fedrwch chi ddim peidio cymryd ato fo.”

Gwrandewch ar Twm Morys yn rhoi Lloyd George yn y dafol yn y clip hwn:

“Rhoi bawd ym mhen brawd Lloyd George”

Mae gan Twm Morys reswm arall tros ymfalchïo yn y cysylltiad rhwng ei deulu ef a theulu David Lloyd George.

Ac yntau’n bedair oed ganol y 1960au, mae’n cofio brawd y gwleidydd, William George, yn dod i’w gartre’ i weld ei dad, a chael yr alwad i’r stydi i’w gyfarfod.

Gwrandewch ar yr hyn ddigwyddodd wedyn: