Eglwys Gadeiriol Llanelwy
Fe fydd ffilm fer sy’n feirniadol o agwedd yr eglwys tua at hoywon yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy heno.

Mae All One in Christ yn ffilm ddogfen ddeuddeg munud sy’n adrodd hanes dwy leian sy’n syrthio mewn cariad a sut y bu i’r eglwys gefnu arnyn nhw.

Credir mai hon yw’r ffilm hoyw gyntaf erioed i gael ei dangos mewn eglwys yng ngwledydd Prydain.

Cynhyrchwyd y ffilm gan drefnwyr Gwobr Iris – sef gwobr ffilmiau byrion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol fwyaf y byd – ac mae wedi cael sêl bendith Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan.

Ond mae’r archesgob yn cyfaddef na fydd y ffilm yn hawdd i’w gwylio am ei bod yn atgoffa’r gynulleidfa “o sut mae pobol yn ein plith wedi cael eu halltudio a’u cam-drin oherwydd eu rhywioldeb”.

“Drwy rannu straeon personol y bobl sydd wedi dioddef a chael eu brifo, rwy’n gobeithio y bydd y ffilm bwerus hon yn dangos maint y difrod a wnaed ac yn y pen draw yn gymorth i newid agweddau yn yr eglwys,” ychwanegodd.

‘Symud ymlaen’

Meddai Cadeirydd Gwobr Iris, Andrew Pierce: “Rydyn ni wastad wedi bod yn ymwybodol o’r grym sydd gan ffilmiau, a nawr rydym wedi cyrraedd diwrnod hanesyddol pan fydd ffilmiau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn cael eu harddangos mewn Eglwys Gadeiriol yng Nghymru.

“Rwy’n grediniol y bydd y ffilm hon, a gŵyl ffilm fach Iris yn gymorth i’r Eglwys yng Nghymru symud ymlaen”.

Mae’r ffilm yn un o 36 ffilm a fydd yn cael eu cynhyrchu gan gymunedau ledled Cymru mewn partneriaeth â Gwaith Maes Gwobr Iris, drwy nawdd gan y Gronfa Loteri Fawr.