Mae canlyniadau diweddara’r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn dangos bod myfyrwyr Cymru ar ei hôl hi o gymharu â gweddill gwledydd Prydain o ran sgiliau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg.

Mae PISA yn arolwg sy’n cael ei chynnal bob tair blynedd gan yr OECD, sef Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Mae 72 o wledydd y byd yn rhan o’r arolwg hwn sy’n arsylwi ar feysydd fel darllen, gwyddoniaeth a mathemateg ar gyfer myfyrwyr 15 oed sy’n tynnu at derfyn addysg ffurfiol.

Mae rhai o ganlyniadau Cymru hefyd yn amlygu sgôr sy’n is na chyfartaledd yr OECD.

Gwyddoniaeth, Darllen, Mathemateg

 

Gwyddoniaeth oedd prif sylw’r arolwg y tro hwn, ac mae’r ffigurau’n dangos fod myfyrwyr ar draws y Deyrnas Unedig wedi perfformio’n well na chyfartaledd yr OECD yn y maes.

  • Er hyn, fe gafodd Cymru sgôr o 485 mewn sgiliau gwyddoniaeth, sy’n is na chyfartaledd yr OECD. Sgoriodd myfyrwyr Lloegr 512, Gogledd Iwerddon 500, a’r Alban 497.
  • O ran sgiliau darllen, roedd gan Gymru sgôr o 477 pwynt sydd hefyd yn is na chyfartaledd yr OECD. Sgoriodd myfyrwyr Lloegr 500, Gogledd Iwerddon 497, a’r Alban 493.
  • Roedd sgôr Cymru hefyd yn is na chyfartaledd yr OECD o ran sgiliau mathemateg, wrth i Gymru sgorio 478 pwynt. Sgoriodd myfyrwyr Lloegr a Gogledd Iwerddon 493 pwynt yr un, a’r Alban 491.

Bwlch rhwng y rhywiau

Mae’r ffigurau hefyd yn dangos nad oes bwlch sylweddol rhwng perfformiad bechgyn a merched ar gyfartaledd mewn gwyddoniaeth ar draws y Deyrnas Unedig.

Er hyn, mae sgiliau darllen merched ar gyfartaledd yn well na bechgyn ym Mhrydain, gyda bwlch o

11 pwynt yng Nghymru, 14 yng Ngogledd Iwerddon, 21 yn yr Alban a 23 yn Lloegr.

O ran mathemateg, mae bechgyn yn perfformio’n well na merched ar gyfartaledd ar draws y Deyrnas Unedig, gyda bwlch o 10 pwynt yng Nghymru, 12 yn Lloegr a 7 pwynt yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban.

Cefndir

 

Cwblhaodd tua 540 000 o fyfyrwyr asesiadau PISA yn 2015, gan gynrychioli 29 miliwn o fyfyrwyr 15 oed mewn ysgolion ar draws y 72 o wledydd.

 

Dyma’r bedwaredd set o ddata ar gyfer Cymru, wrth i Gymru gymryd rhan yn yr arolwg am y tro cyntaf yn 2006.

Ers hynny, mae’r ffigurau wedi dangos bod Cymru ar eu hôl hi o gymharu â gwledydd eraill ac mae disgwyl i Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, wneud datganiad am y canlyniadau diweddaraf yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw.

 

‘Cymru yn ei gyd-destun’

Mewn ymateb i’r canlyniadau dywedodd Ywain Myfyr, Swyddog Polisi Undeb Athrawon Cymru (UCAC) eu bod yn “siomedig dros ein haelodau nad oes cynnydd arwyddocaol wedi bod.”

Er hyn, dywedodd ei bod yn bwysig ystyried y ffigurau hyn yng nghyd-destun Cymru.

“Mae’n hollbwysig nad ydy’r Llywodraeth yn gwneud dim byd byrbwyll ac yn tynnu eu llygaid oddi ar y bêl, achos eisoes mae nifer o ddiwygiadau allweddol ar y gweill,” meddai wrth golwg360.

 

“Mae ’na gwricwlwm newydd i Gymru ar droed yn dilyn adroddiad Donaldson ac mae ’na ddiwygio i gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon yn dilyn adroddiad Furlong.

“…beth sydd angen ei wneud ydy cymryd hyn i gyd yn eu cyd-destun,” meddai wedyn.

‘Degawd o dangyflawni’

Mae Darren Millar, AC y Ceidwadwyr Cymreig a llefarydd ar addysg, wedi dweud fod y canlyniadau’n arddangos “degawd o dangyflawni.”

“Er gwaethaf siarad mawr ac addewidion i wneud yn well gan y Prif Weinidog mae’r ffigurau heddiw yn ein rhoi ni, unwaith eto, yn hanner waelod tabl cynghrair addysg ac yn cadarnhau statws Cymru fel y system ysgol sy’n perfformio gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd y dylai’r Ysgrifennydd Addysg fynd ati i ddatblygu “strategaeth glir” gyda “thargedau mesuradwy” er mwyn gwyrdroi’r perfformiad hwn.

‘Dangos gweledigaeth glir’

Ac mae Llŷr Gruffydd AC Plaid Cymru a llefarydd ar Addysg hefyd wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “[f]ethu, methu a methu eto.”

“Mae athrawon ledled Cymru yn gwneud gwaith rhagorol mewn amodau anodd tu hwnt,” meddai.

“Yn sgil y ffaith fod y llywodraeth Lafur yn gwbl ddi-glem mae athrawon wedi gorfod dioddef llwyth gwaith diangen o fawr a mynd drwy newidiadau anghynhyrchiol.”

Dywedodd y dylai Ysgrifennydd Addysg y Llywodraeth “ddangos gweledigaeth glir a chanolbwyntio ar ddelifro.”

“…rwy’n ei hannog i aros ar y trywydd hwn a gorfodi’r diwygiadau arfaethedig fydd yn adeiladu system addysg sy’n addas ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”