Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn o Aberhonddu wedi ei gael yn euog gan Lys y Goron Caerdydd o lofruddio’r milwr Matthew Boyd yn nhref Aberhonddu fis Mai diwethaf.
Roedd y preifat Matthew Boyd, 20 oed, yn mwynhau noson allan yn Aberhonddu pan gafodd ei daro sawl gwaith gan Jake Vallely.
Clywodd y llys fod y milwr yn dychwelyd i’r barics pan ddigwyddodd yr ymosodiad tu allan i dafarn The Cellar.
Daeth yr heddlu o hyd i gorff Matthew Boyd, oedd yn aelod o gatrawd y Royal Gibraltar, yn gorwedd yn ddiymadferth ar lawr un o strydoedd y dref ar Mai 15.
Dyfarnodd y rheithgor fod cyfaill Jake Vallely, Aaeron Evans, yn ddieuog o ddynladdiad ar ôl i’r llys glywed nad oedd yn bresennol yn ystod yr ymosodiad.
Fe fydd Jake Vallely, 24, yn cael ei ddedfrydu’r wythnos nesaf.