Mae ymchwilwyr wedi canfod y gall fod cysylltiad rhwng defnydd mamau beichiog o dabledi gwrthiselder [antidepressants] a namau geni mewn babanod.

Yn ôl academyddion Prifysgol Abertawe, gall cymryd math penodol o’r ffisig codi calon yn ystod dyddiau cynnar beichiogrwydd fod yn risg.

Er bod y risg yn fach, mae’r tebygolrwydd o roi genedigaeth i fabi â namau geni neu fabi marw-anedig wrth gymryd y ffisig penodol yn ystod y cyfnod hwn o feichiogrwydd yn sylweddol uwch.

Roedd yr astudiaeth dan law academyddion o’r Deyrnas Unedig, Denmarc a Norwy, yn dadansoddi data gan dros 500,000 o fabanod yng Nghymru, Norwy a Denmarc.

Mae’n debyg mai’r iselydd penodol sy’n peri drwg yw’r moddion dan yr enw SSRI neu’r selective serotonin reputake inhibitors.

Mewn achosion lle doedd y fam ddim yn cymryd y moddion hwn, roedd chwech o bob 200 o enedigaethau yn rhai â nam neu’n farw-enedigaethau.

I’r mamau oedd ar y moddion yn ystod cyfnod cynnar y beichiogrwydd, neu’r tri mis cyn beichiogrwydd, cynyddodd hynny i saith genedigaeth o bob 200.

Risg ‘difrifol’

Yn ôl y gwyddonwyr, mae’r risg hwn o bwys i iechyd y cyhoedd am fod y canlyniadau ar y babi mor ddifrifol.

Mae 5.5% o fenywod beichiog yng Nghymru,  2.1% yn Nenmarc ac 1.6% yn Norwy yn cymryd presgripsiwn SSRIau.

Mae’r gwyddonwyr yn galw am asesu’r holl fenywod sy’n gofyn am y moddion hwn ac nid y rhai sy’n bwriadu beichiogi yn unig.

Mae’r risg yn cynyddu eto os bydd y ferch hefyd yn camddefnyddio cyffuriau ac alcohol wrth gymryd y moddion.

Rhybudd i beidio stopio cymryd moddion

Mae’r gwyddonwyr wedi rhybuddio na ddylai merched stopio cymryd y moddion heb siarad â’u meddygon yn gyntaf.

“Hyd y gwyddom, dyma’r dadansoddiad ymateb dos cyntaf sy’n dangos y cysylltiad rhwng dosau SSRI ac anomaleddau cynhenid [namau geni] a marw-enedigaethau, ac er bod y risg ychwanegol hon i bob golwg yn ymddangos yn un fach, yn fy marn i, mae’r canlyniadau mor ddifrifol ag y gallent fod,” meddai’r Athro Sue Jordan o Brifysgol Abertawe.

“Ni ddylai menywod stopio cymryd SSRIau heb siarad â’u meddygon, ac nid ydym yn dweud y dylent stopio cymryd pob math o feddyginiaethau, ond ein neges yw ein bod am i’n gweithwyr proffesiynol gofal iechyd fod yn ymwybodol iawn o’r cysylltiad hwn ac i gymryd y camau gweithredu priodol i sicrhau bod menywod yn cael y math cywir o ofal cyn, yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd er mwyn lleihau’r risg o anomaleddau cynhenid a marw-enedigaethau sy’n gysylltiedig ag SSRIau.”