Mark Drakeford (Llun: Teledu'r Senedd)
Ddylai Cymru ddim colli ceiniog o arian o ganlyniad i Brexit, yn ôl Ysgrifennydd Cylllid.

Fe gadarnhaodd Mark Drakeford eu body n cynnal trafodaethau uniongyrchol gyda Llywodraeth Prydain i sicrhau na fydd Cymru’n colli arian ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Fe bleidleisiodd Cymru o blaid gadael yr undeb ond wnaeth y genedl ddim pleidleisio o blaid toriadau gan Lywodraeth Cymru i fuddsoddi yng Nghymru,” meddai.

Fe gadarnhaodd Mark Drakeford fod £1.16 biliwn o gronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd wedi cael eu buddsoddi mewn cynlluniau ar draws Cymru rhwng 2014-2020, gan gwrdd â’r targed o fuddsoddi 60% o’r arian erbyn diwedd mis Tachwedd.

Cafodd y cyllid ei ddefnyddio i gefnogi cynlluniau yn cynnwys prentisiaethau; Cronfa Fusnes Cymru; Canolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd (CUBRIC); Parc Gwyddoniaeth Menai a thechnoleg ynni’r môr, Deep Green.

“Ddylai Cymru ddim colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit,” meddai  Mark Drakeford. “R’yn ni’n cynnal trafodaethau uniongyrchol â Llywodraeth Prydain i sicrhau bod polisïau a chyllid sydd wedi’u datganoli – fel cyllid rhanbarthol yn y dyfodol – yn dod yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Rhaid inni beidio â chymryd camau yn ôl o safbwynt datganoli.”