Georgina Symonds (llun: Heddlu Gwent/PA)
Mae llys wedi clywed sut y gwnaeth dyn, sy’n gwadu llofruddio merch 25 oed, brynu anrhegion drud a thalu £10,000 y mis iddi fod yn gymar personol iddo.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd heddiw fod yr ymosodiad a ddigwyddodd ar Ionawr 12 eleni mewn byngalo yn Llanfarthyn, Casnewydd wedi’i gynllunio’n ofalus.

Mae Peter Morgan, 54 oed, wedi’i gyhuddo o dagu Georgina Symonds i farwolaeth ar ôl clywed ei bod yn bwriadu ei adael.

Dyfais gwrando cudd

Clywodd y llys fod Peter Morgan o Lanelen ger Y Fenni yn werth £20 miliwn ac mai ef oedd yn berchen ar y byngalo lle’r oedd Georgina Symonds yn byw.

Ar ôl ei thagu, clywodd y llys ei fod wedi rhoi ei chorff yng nghist ei gar cyn ei guddio mewn adeilad yng nghartref ei wraig, yr oedd wedi gwahanu â hi, ym Mrynbuga, Gwent.

Mae’r erlynwyr yn honni fod gan Peter Morgan “obsesiwn” gyda’r ferch a’i fod wedi gosod peiriant gwrando yn ei chartref heb iddi wybod.

Clywodd y llys fod Peter Morgan wedi galw’r peiriant hwnnw 514 o weithiau rhwng Tachwedd 2015 a’i marwolaeth ym mis Ionawr.

Oriau cyn ei marwolaeth, fe glywodd Peter Morgan drafodaeth lle’r oedd Georgina Symonds yn dweud ei bod yn bwriadu ei adael ond i barhau “i’w flingo.”

Roedd Peter Morgan wedi cyfaddef wrth yr heddlu ar Ionawr 13 ei fod wedi lladd Georgina Symonds.

Mae’r achos yn parhau.