Ysbyty Maelor, Wrecsam
Mae pedwar ward yn Ysbyty Maelor, Wrecsam yn parhau i fod ynghau i fynediadau newydd o ganlyniad i achosion o norofirws yno.

Mae pryder hefyd y gallai’r norofirws fod wedi ymledu i ddau ysbyty arall yn y dalgylch, gan fod cyfyngiadau ar rai o wardiau Ysbyty Cymunedol Y Waun ac Ysbyty Cymunedol yr Wyddgrug bellach.

Yn Ysbyty Maelor, mae wardiau Evington, Bersham, Erddig a Lister ynghau. Mae cyfyngiadau ar ward cardiaidd ACU, ward Onnen a Fleming ond cafodd ward Mason ei hailagor nos Lun, Tachwedd 28.

‘Bod yn ofalus..’

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn galw ar y cyhoedd i ddiogelu cleifion drwy fod yn ofalus cyn ymweld â’r ysbyty rhag ofn eu bod yn cyfrannu at ymledu’r haint.

Yn ôl llefarydd, “rydyn ni bob amser yn disgwyl gweld mwy o achosion o norofirws wrth i’r gaeaf agosáu, ac rydym wedi gweld cynnydd sydyn yn y dyddiau diwethaf.

“O ganlyniad i’r modd y mae’r symptomau’n datblygu, rhai diwrnodau ar ôl cael eich heintio, bydd rhai pobol yn dod i’r ysbyty heb wybod eu bod nhw wedi’u heintio,” meddai’r llefarydd.

Dyma argymelliadau’r Bwrdd Iechyd i’r cyhoedd:

  • I beidio ag ymweld â’r ysbyty os ydych wedi dioddef dolur rhydd neu gyfog yn y 48 awr ddiwethaf.
  • Annog cleifion sydd i fod i ddod i’r ysbyty, ond wedi dioddef symptomau tebyg, i gysylltu â’r Bwrdd Iechyd yn gyntaf.
  • Ymwelwyr i ddilyn cyfarwyddiau’r ysbyty, y staff a’r nyrsys.
  • Plant i beidio ag ymweld â wardiau sydd wedi’u heffeithio.
  • Pawb i olchi eu dwylo wrth gyrraedd a gadael y wardiau.