Mae’r gwaith o adeiladu fferm wynt 28 tyrbin ar fryniau Sir Gaerfyrddin bellach wedi dechrau.

Cafodd y cynllun dadleuol yng Nghoedwig Brechfa sêl bendith Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd Llywodraeth Prydain dair blynedd yn ôl, ym mis Mawrth 2013.

Mae disgwyl i’r fferm wynt gynhyrchu pŵer ar gyfer tua 39,000 o gartrefi, ac fe fydd yn cael ei weithredu gan Innogy Renewabeles UK Ltd ar safle sy’n cael ei reoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

“Cadw llygad barcud”

Un sydd wedi bod yn arwain ymgyrchoedd yn erbyn y cynllun yw Caroline Evans sy’n byw ym mhentref cyfagos Gwernogle.

“Mae’n amlwg y byddwn ni’n parhau i frwydro yn erbyn y cynllun hwn, ond does dim llawer y gallwn ni ei wneud nawr am fod y cais wedi’i gymeradwyo, ond fe fyddwn ni’n cadw llygad barcud ar y datblygwyr,” meddai wrth golwg360.

Esboniodd fod yr ardal yn rhan o gynllun TAN 8 sy’n nodi bod rhai ardaloedd yng Nghymru yn addas ar gyfer datblygiadau ynni gwynt mawr.

“Mae 10 tyrbin gwynt yn yr ardal yn barod ar fferm wynt Alltwalis ac maen nhw tua 110 metr o uchder, ond fe fydd y rhain yn 145 metr o uchder ac ar dir uchel hefyd.”

Dywedodd fod y tyrbinau’n effeithio ar rai pobol wrth i’w llafnau droi yn y gwynt, “ond mae hefyd effaith mawr iawn ar y dirwedd a’r golygfeydd gyda llawer wedi symud i ffwrdd ac eraill wedi trio gwerthu”.

Y gwaith

Mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu’r fferm wynt gymryd 20 mis ac mae’n cynnwys uwchraddio ffyrdd presennol y goedwig ac adeiladu ffyrdd newydd, gosod ceblau ar y safle ynghyd â seilwaith angenrheidiol o fath arall.

Ond fe fydd y goedwig yn parhau ar agor yn ystod y cyfnod hwn gyda chyfyngiadau mewn rhai ardaloedd arbennig.

“Dyma gyfnod cyffrous,” meddai Bethan Edwards, uwch-ddatblygwr ynni adnewyddadwy Innogy ar gyfer y fferm wynt.

“Fe allai’r gwaith o adeiladu Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa gefnogi buddsoddiad sylweddol a datgloi buddsoddiadau cymunedol ar gyfer yr ardal,” meddai.