Mae Heddlu’r De wedi cadarnhau bod cerddwr yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A4059 ger Aberdâr neithiwr.

Bu’r gwrthdrawiad ar y ffordd rhwng Ysgol Gymunedol Aberdâr a siop Asda’r dre tua 5.30 neithiwr, Tachwedd 24.

Mae’r heddlu’n apelio am unrhyw wybodaeth neu dystion i’r digwyddiad rhwng y car Suzuki Swift llwyd a’r cerddwr sydd bellach yn cael triniaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.

Bu’r ffordd ynghau am gyfnod neithiwr wrth i’r heddlu gynnal eu hymchwiliadau cyntaf, ac maen nhw’n apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â nhw ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod 1600455017 neu i ffonio Taclo’r Taclau.