Mae cefnogwyr tîm pêl-droed Cymru wedi cael eu beirniadu am wisgo’r pabi yn ystod y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Serbia.

Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn cael eu disgyblu gan FIFA er nad oedden nhw wedi torri rheolau oedd wedi cael eu hegluro iddyn nhw cyn y gêm.

Roedd y chwaraewyr wedi cael eu gwahardd rhag gwisgo’r pabi ar eu crysau, ac fe wnaethon nhw ufuddhau i hynny.

Yn hytrach, fe wisgon nhw fand du ar eu breichiau, ac fe gafodd y teyrngedau eu cyfyngu i ymyl y cae a’r eisteddle.

Cafodd torch o babïau ei gosod ar ymyl y cae gan aelodau’r lluoedd arfog cyn y gêm, ac roedd cefnogwyr wedi derbyn cardiau i’w harddangos yn yr eisteddle er mwyn datgelu llun pabi.

Roedd baneri i’w gweld y tu fewn i’r stadiwm hefyd.

Cefnogwyr

Ond mae’r Gymdeithas hefyd wedi cael eu beirniadu am adael i gefnogwyr wisgo pabi y tu fewn i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Wrth ymateb i FIFA, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford eu bod nhw “wedi siomi ac wedi synnu” gan ymateb y corff sy’n rheoli pêl-droed ryngwladol.

“Ry’n ni’n arbennig o siomedig fod un o’r cyhuddiadau’n ymwneud â chefnogwyr yn yr eisteddleoedd yn gwisgo’r pabi. Yn amlwg fel cymdeithas, fe fyddwn ni’n herio’r cyhuddiadau mewn modd cryf iawn.”

Bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal gan Bwyllgor Disgyblu FIFA ar Ragfyr 9, ac mae gan y Gymdeithas tan Dachwedd 29 i gyflwyno datganiad a thystiolaeth berthnasol.