Colin Paterson (Llun: BBC Cymru Wales)
 
Mae BBC Cymru Wales wedi penodi Golygydd newydd ar gyfer BBC Radio Wales.

Fe fydd Colin Paterson yn dechrau ar ei waith yn y flwyddyn newydd gan adael ei swydd fel Golygydd Rhaglenni Cyffredinol yn BBC Radio Scotland.

Mae eisoes wedi bod yn uwch gynhyrchydd Radio Wales  rhwng 2010 a 2013, ac wedi gweithio am flynyddoedd yn y sector radio masnachol.

Ymuno â’r Grŵp Comisiynu

Fel rhan o’i waith newydd fe fydd Colin Paterson yn ymuno â Bwrdd BBC Cymru a’r Grŵp Comisiynu sy’n rhoi cyfle i gyfryngau radio, teledu a’r we rannu syniadau aml-lwyfan.

“Rwy’n teimlo’n gyffrous dros ben wrth ddychwelyd i BBC Radio Wales. Mae yna gymaint o dalent yn yr orsaf – ar ac oddi ar yr awyr,” meddai Colin Paterson wrth edrych ymlaen at y gwaith.

Ychwanegodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, “does neb yn cymharu gyda Colin o ran ei angerdd  tuag at radio – ac mi wn fod ei brofiad helaeth yn y BBC a thu allan, yn mynd i fod o gymorth mawr i ni.”