Y Rhyl Llun: PA
Mae teithwyr a chriw ar fwrdd llong fferi Stena Ewrop bellach wedi cyrraedd porthladd Abergwaun ar ol treulio’r nos ar y llong wedi i swyddogion benderfynu ei bod hi’n rhy beryglus i geisio angori oherwydd y tywydd garw.

Nid oedd y fferi yn gallu angori amser cinio ddydd Llun ar ôl gadael Rosslare, yn Iwerddon am 9 y bore.

Roedd 87 o deithwyr a 59 aelod o’r criw ar fwrdd y llong fferi a lwyddodd i angori tua 11 y bore ma, yn ôl llefarydd ar ran Stena Line.

Mae tywydd garw ar hyd y rhan fwyaf o Gymru wedi bod yn achosi trafferthion i deithwyr ar y tir hefyd gyda 9 rhybudd am lifogydd mewn grym ar hyn o bryd.

Ond mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn credu bod y tywydd gwaethaf ar ben.

Trenau

Mae rhybuddion wedi’u cyhoeddi gan gwmni Trenau Arriva Cymru yn gofyn i deithwyr sicrhau bod eu gwasanaethau yn cael eu cynnal cyn mentro allan, gyda threnau rhwng yr Amwythig a Henffordd wedi’u canslo oherwydd llifogydd yn Craven Arms.

Ffyrdd

Daeth rhybudd gan Wasanaeth Tan Gogledd Cymru hefyd yn rhybuddio pobol i gymryd gofal wrth yrru gan fod dŵr wedi cronni ar wyneb rhai ffyrdd.

Dywedodd Cyngor Môn bod Heol Henllys, Biwmares wedi cau yn sgil llifogydd a bod coeden wedi disgyn ar Lon Penmynydd ger gwaith y ffordd gyswllt.

Fe fu’r Gwasanaeth Tan yn delio gyda llifogydd yn Abergele, Y Rhyl a Bangor dros nos.

Cofnodwyd bod 40mm o law wedi disgyn ym Maenclochog, Sir Benfro mewn cyfnod o chwe awr a bod yr A40 a’r A478 yn cael problemau oherwydd llifogydd.

Dyn ar goll 

Fe fydd Heddlu De Cymru yn parhau i chwilio am bensiynwr sydd ar goll, ar ôl i’r chwilio ddod i ben ddoe oherwydd y tywydd gwael.

Diflannodd Russell Sherwood sy’n 69 oed ac o Gil-ffriw, Castell-nedd yn ystod Storm Angus ddydd Sul a bu’r heddlu yn chwilio ger glannau’r afon Ogwr amdano ddoe.