Cynlluniau ar gyfer Morlyn Llanw Abertawe
Fe fydd Cabinet Cyngor Dinas Caerdydd yn trafod cynlluniau i adeiladu Morlyn Llanw anferth ym Mae Caerdydd heno, gyda thasglu yn cael ei sefydlu i edrych ar y datblygiad.

Mae’r cynlluniau a allai gostio rhwng £6-8 biliwn i gynhyrchu ynni yn y Bae, 11 gwaith yn fwy na’r hyn sy’n cael ei fwriadu ar gyfer Morlyn Abertawe. Maen nhw’n amcangyfrif y byddai’r cynllun hwn, pan yn weithredol, allu cynhyrchu trydan i bob cartref yng Nghymru.

Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r cabinet hefyd fel rhan o Adolygiad Hendry Llywodraeth Prydain sy’n asesu morlynnoedd llanw ar draws y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale: “Mae hwn yn broject peirianneg ac ynni a allai fod o arwyddocâd rhyngwladol, ond eto prin yw’r wybodaeth annibynnol am ba mor ddichonol ac ymarferol yw.

“Hyd yn hyn, ni fu unrhyw ddadansoddiad arbenigol manwl annibynnol na chraffu manwl ar broject Caerdydd sydd ar raddfa cwbl wahanol i’r cynllun ym Mae Abertawe.”

‘Deall y problemau a’r cyfleoedd’

Ychwanegodd Phil Bale, “Mae’n bwysig bod Cyngor y Ddinas yn gwneud popeth y gall ei wneud er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn llawn y problemau a’r cyfleoedd a allai godi.

“Mae gennym nawr amser i gasglu tystiolaeth annibynnol er mwyn i ni allu ffurfio barn ar sail tystiolaeth ar Forlynnoedd Llanw a’r effaith y byddai un o’r maint hwn yn ei chael ar Gaerdydd a’r ardal o’i chwmpas.”

Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth Prydain ar Ynni a Newid Hinsawdd ynghyd ag Arolygiaeth Gynllunio’r Deyrnas Unedig fydd yn penderfynu a ddylid adeiladu’r morlyn ai peidio