Gwynoro Jones wedi gwisgo fel Donald Trump ar gyfer y rali
Mae trefnydd rali yn Abertawe brynhawn ddoe wedi dweud wrth Golwg360 fod y sgwrs am annibyniaeth i Gymru “wedi dechrau” yn y ddinas yn dilyn y digwyddiad.

Daeth degau o bobol ynghyd, er gwaetha’r tywydd, wrth i’r cyn-Aelod Seneddol Gwynoro Jones, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Heledd Gwyndaf, yr Athro Daniel G. Williams o Brifysgol Abertawe a Liam Rees o Blaid Cymru Ifanc annerch y dorf yn rali YesCymru Abertawe yn Sgwâr y Castell y ddinas.

“Allwn ni ddim parhau i dderbyn briwsion” oedd neges Gwynoro Jones, cyn-Aelod Seneddol Llafur yng Nghaerfyrddin.

Mewn araith danllyd, dywedodd Heledd Gwyndaf: “Dyw cenedlaetholdeb ddim yn golygu casineb at bopeth arall.”

Soniodd yr Athro Daniel G. Williams am yr angen i “ail-ddiffinio cenedlaetholdeb”.

‘Dw i’n Gymraes, a dw i’n caru Cymru’

Gall Tricia Roberts uniaethu â’r neges olaf hon gan nad yw hi’n ystyried ei hun yn genedlaetholwraig fel y cyfryw.

“Dw i erioed wedi ystyried fy hun yn genedlaetholwraig. Dw i’n Gymraes, a dw i’n caru Cymru.

“Dw i’n gwneud hyn achos dw i’n caru Cymru.

“Mae cenedlaetholdeb yn cael ei weld fel gair brwnt, ond dw i ddim yn meddwl ei fod e, yn enwedig os yw e’n cynnwys pawb ac yn golygu democratiaeth gymdeithasol.

“Dyw rheoli ein hunain, a pheidio â chael ein rheoli gan wlad arall, ddim yn beth drwg.”

Hinsawdd wleidyddol yn newid ar draws y byd

Mae penderfyniad gwledydd Prydain, ac eithrio’r Alban, i adael yr Undeb Ewropeaidd yn golygu bod annibyniaeth yn debygol o godi’i phen unwaith eto wrth i’r trafodaethau am Brexit barhau.

Ac mae ethol Donald Trump yn Arlywydd nesa’r Unol Daleithiau eisoes wedi arwain at gynnydd mewn troseddau casineb yn ymwneud â chenedligrwydd a hil.

Peth positif, meddai Tricia Roberts, yw trafod annibyniaeth yma yng Nghymru.

“Mae cenedlaetholdeb yn Lloegr, Ffrainc ac America yn fwy negyddol na Chymru na’r Alban. Y cyfan ry’n ni eisiau yw annibyniaeth. Dw i ddim yn gwybod beth mae gwledydd sydd wedi cael annibyniaeth eisiau.

“Mae gwleidyddiaeth y byd yn newid. Gyda UKIP a Trump, mae ffordd gul asgell-dde o weld y byd. Trwy gynnal rali, dw i’n dweud ein bod ni’n cynnwys pawb, a’n bod ni eisiau Cymru well sy’n cynnwys pawb sy’n byw yng Nghymru heb adael unrhyw un ma’s.

YesCymru Abertawe – beth nesaf?

“Ers y rali, mae llawer o bobol wedi dod lan ata’i a dechrau sgwrs am annibyniaeth a dweud beth sydd rhaid i ni wneud nesaf. Mae e wedi bod yn bositif iawn.”

Ymgyrch ar-lein yw YesCymru Abertawe ar hyn o bryd, ond mae’n fwriad gan y gangen leol ddechrau cwrdd wyneb yn wyneb i ddatblygu ar lwyddiant y rali.

Ychwanegodd Tricia Roberts: “Dw i eisiau cydweithio â YesCymru yng Nghaerdydd a Llanelli. Mae angen i ni wneud hyn gyda’n gilydd. Dydyn ni ddim ar ein pennau ein hunain. Dylen ni ddod at ein gilydd cyn symud ymlaen.”