Mae pump o rybuddion am lifogydd wedi’u cyhoeddi yn rhannau o dde Cymru y bore ma.

Mae Pont Hafren ar yr M48 ynghau i’r ddau gyfeiriad am y tro wrth i storm Angus daro, ac mae rhybuddion am lifogydd ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub wedi bod yn ymateb i nifer o alwadau ym Maesteg, Pencoed a Phen-y-bont ar Ogwr, gyda nifer o geir yn sownd mewn dŵr ar y ffyrdd.

Mae disgwyl i Bont Hafren fod ynghau am gryn amser.