Fe fydd Heddlu Dyfed-Powys yn chwifio baner trawsrywioldeb y tu allan i’w gorsafoedd yfory i nodi diwrnod rhyngwladol i gofio pobl trawsrywiol.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Dros Dro Pam Kelly fod chwifio’r faner newydd (fel yn y llun) yn dangos cefnogaeth yr heddu tuag at y gymuned drawsrywiol a’r trigolion trawsrywiol y maen nhw’n eu gwasanaethu.
“Ni bydd Heddlu Dyfed-Powys yn dioddef casineb na gwahaniaethu o unrhyw fath,” meddai.
“Mae bod yn sefydliad cynhwysol yn fwy o lawer na gosod baner ar bolyn baner yn unig; mae’n ymwneud â byw ac anadlu cynhwysiant a chydraddoldeb ym mhob dim a wnawn.
“Yn ogystal â chael Swyddogion Cyswllt Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol ar draws yr heddlu, rydyn ni wrthi’n adolygu rhai o’n harferion gweithio er mwyn sicrhau eu bod nhw’n gynhwysol ar gyfer ein cymunedau trawsrywiol.
“Hwn yw’r tro cyntaf y byddwn ni wedi chwifio’r faner o bolion baner Heddlu Dyfed-Powys, ond yn sicr, nid hwn fydd y tro olaf.”