Mae Is-ysgrifennydd Cymru yn ymweld â Glannau Dyfrdwy heddiw i gwrdd â busnesau a allai elwa o gynllun ‘Pwerdy’r Gogledd’ Llywodraeth Prydain.
Ac mae Guto Bebb o’r farn bod gogledd Cymru yn “rhan allweddol” ohono.
Mae disgwyl cyflwyno Cronfa Fuddsoddi newydd gwerth £400 miliwn ddiwedd y flwyddyn nesa’ ar gyfer y pwerdy i helpu busnesau bach a chanolig ddenu buddsoddiadau o dramor.
Bydd y Canghellor, Philip Hammond, yn cyflwyno ei Ddatganiad yr Hydref ddydd Mercher nesa’ (Tachwedd 23), ac mae llawer yn disgwyl mwy o fanylion am y Pwerdy yn y cyhoeddiad.
Gogledd Cymru’n “allweddol”
“Mae’r ymweliad heddiw yn tanlinellu’r ffaith bod Gogledd Cymru yn rhan allweddol o’r pwerdy, yn cysylltu ein rhan ni o’r wlad â dinasoedd mawr gogledd Lloegr,” meddai Guto Bebb.
“Mae cysylltiadau trawsffiniol wedi bod rhwng gogledd Cymru a Swydd Gaer a Glannau Mersi erioed, a bydd dod o dan adain Pwerdy’r Gogledd yn hynod o fanteisiol iddyn nhw.
“Mae gan ogledd Cymru economi fywiog a phenodol, ac mae’r contract i gynnal awyrennau F-35 yn y rhanbarth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dangos y gweithlu medrus sydd ar gael yma.
“O electroneg i awyrennau, mae gogledd Cymru yn chwarae ei rhan yn y gwaith o lywio’r pwerdy.”
Mae Partneriaethau Menter Lleol yn rhan o adeiladu pwerdy’r gogledd, sy’n golygu cydweithio trawsffiniol rhwng busnesau’r ardal. Mae £2.8 biliwn eisoes wedi cael ei roi i’r partneriaethau hyn.