Fe fydd £10 miliwn yn cael ei wario ar wella offer mewn unedau’r galon yn ysbytai Cymru, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i dalu am systemau delweddu a monitro newydd mewn saith labordy cathetreiddio yng Nghymru, gan wella gwasanaethau modern fel angiograffeg a gosod rheolyddion calon.
Mae cyfanswm o 10 labordy yng Nghymru ond nid oes angen cyfarpar newydd yn y tri labordy arall ar hyn o bryd, yn ol Llywodraeth Cymru.
Drwy fuddsoddi mewn gwasanaethau cardioleg, rydyn ni’n sicrhau bod ysbytai’n gallu trin cleifion sydd wedi cael diagnosis o gyflwr ar y galon yn gyflym ac yn effeithiol, a hynny mor agos â phosibl i’w cartrefi.
Dyma’r byrddau iechyd fydd yn derbyn arian:
· Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – £1.77m ar gyfer y labordy yn Ysbyty Brenhinol Gwent;
· Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg – £2.43m ar gyfer Ysbyty Treforys, ac £1.66m ar gyfer Ysbyty Tywysoges Cymru;
· Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – £1.52m ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd;
· Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – £2.48m yr un i ddau labordy yn Ysbyty Athrofaol Cymru;
· Bwrdd Iechyd Cwm Taf – £0.81m ar gyfer y labordy yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.